
Croeso i wefan y Ganolfan Bwnc Saesneg
Rydym yn croesawu cydweithwyr yng Nghymru i wefan y Ganolfan Pwnc Saesneg. Mae’r Ganolfan Pwnc Saesneg yn rhan o’r Academi Addysg Uwch ac yn cefnogi dysgu Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar draws Addysg Uwch y DU. Rydym yn darparu cefnogaeth, digwyddiadau, adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer athrawon Saesneg addysg uwch mewn amrywiaeth o sefydliadau a rolau.
Pwy Ydym Ni
Rydym ni’n dîm bach ym Mhrifysgol Royal Holloway, Llundain, a sefydlwyd yn 2000, ac mae gennym swyddfa loeren yn King’s College yng nghanol Llundain. Mae strategaeth y Ganolfan Pwnc yn cael ei harwain gan gynrychiolwyr y disgyblaethau trwy ein Bwrdd Ymgynghorol, sy’n cael ei gadeirio gan Yr Athro Lyn Pykett o Brifysgol Aberystwyth.
Ein Rôl
Credwn mai'r ffordd orau i wella dysgu ac addysgu yw gweithio gyda'r ddisgyblaeth a thrwyddi. Rydym ni’n hyrwyddo arfer da ym mhob agwedd ar gefnogi dysgu trwy hwyluso cyfnewid syniadau a phrofiadau ymhlith cymuned y pwnc. Nid oes gennym rôl ‘sicrwydd ansawdd’, yn hytrach, rydym yn ymatebol i anghenion darlithwyr Saesneg ac yn dibynnu ar eu cyfranogiad gweithredol i gyflwyno’r gwasanaethau a’r adnoddau rydym yn eu cynnig. Yn ogystal â gweithio gydag academyddion ac adrannau unigol, rydym hefyd yn cydweithio â sefydliadau sydd â diddordeb mewn addysg uwchradd ac addysg uwch ac mewn astudiaethau Saesneg.
Yr Hyn a Wnawn
Digwyddiadau – rydym yn trefnu (yn bennaf yn rhad ac am ddim) digwyddiadau ar bynciau sy’n gysylltiedig â dysgu, yn aml mewn cydweithrediad ag unigolyn neu adran.
Cyhoeddiadau ac adnoddau - rydym yn cyhoeddi Newyddlen chwe-misol ac yn comisiynu adroddiadau a chanllawiau ar bynciau o ddiddordeb cyfredol. Mae ein gwefan yn cynnwys cyfoeth o adnoddau ar gyfer darlithwyr Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Gallwch ymuno â’n rhestrau postio i dderbyn copïau i’r newyddlen a derbyn diweddariadau electronig am ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Cynrychioli - rydym ni’n cynrychioli lles cymuned y pwnc mewn fforymau addysgu a dysgu cenedlaethol ac yn cyfrannu at ymgynghoriadau a datblygu polisi. Rydym ni hefyd yn codi proffil Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ymhlith myfyrwyr posibl trwy ein gwefan Why Study English?.
Gwybodaeth a gwaith ymchwil - rydym yn cefnogi ac yn comisiynu prosiectau a gyflawnir gan adrannau ac ymgynghorwyr allanol ac yn meithrin gwaith ymchwil pedagogaidd yn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Mae ein staff gwybodus yn ateb ystod eang o ymholiadau neu’n eu cyfeirio nhw at ein rhwydwaith eang o gysylltiadau.
Cefnogaeth wedi’i deilwra - rydym yn creu cyfleoedd i rwydweithio ac adnoddau ar gyfer grwpiau penodol fel addysg uwch ym maes addysg bellach, darlithwyr newydd, penaethiaid adrannau a darlithwyr Ysgrifennu Creadigol. Rydym yn croesawu syniadau ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau sydd wedi cael eu teilwra ar gyfer darlithwyr Saesneg yng Nghymru: anfonwch e-bost esc@rhul.ac.uk neu ewch i’n tudalen ‘cynnig digwyddiad’.
Jane Gawthrope
Rheolwr
Canolfan Pwnc Saesneg


